Monday, 20 October 2014

Ap 'Spelling Test': GWYCH!

Gyda mab 7 mlwydd oed sydd yn derbyn prawf sillafu yn wythnosol, mae'r ap 'Spelling Test' wedi profi i fod yn un amhrisiadwy

Syml, effeithiol a di-ffws: nid yw ymarfer sillafu yn boendod o gwbl gyda'r ap yma!

Rwy'n sicr bod yna botensial i ddefnyddio'r ap hwn o fewn yr ystafell ddosbarth...i unrhyw iaith.




ARGAELEDD
  • iOS (e.e. iPad): Cliciwch yma i lawrlwytho'r ap (yn rhad ac am ddim!)
  • Android: Cliciwch yma i lawrlwytho'r ap (yn rhad ac am ddim)


Gwyliwch y fideo isod os yr ydych am gael cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r ap.

Croeso!

Croeso i flog newydd "iPads yn yr Ysgol Gynradd"!

Yn syml, pwrpas y blog hwn yw i rannu syniadau ar adnoddau digidol sydd yn medru cyfoethogi, ymestyn a herio dysgu o fewn yr ystafell ddosbarth gynradd. Gobeithiaf yn fawr ei fod o ddefnydd i chi, a chofiwch gysylltu os oes angen cymorth pellach arnoch. Cliciwch yma os yr ydych yn dymuno derbyn hyfforddiant neu gyngor pellach.

Pob hwyl!
Serena