Tystebau

Dyma rai sylwadau wrth athrawon sydd wedi mynychu gweithdai yn ystod y flwyddyn 2014...

"Cwrs anhygoel o wych wedi ei gyflwyno'n ardderchog. Dw i'n HYNOD o falch y bûm yma. diolch o waelod calon!"
 
"Heb os nac oni bai, hwn yw'r cwrs gorau imi fod arno erioed! WAW! Roedd pob syniad, pob help a phob eglurhâd yn wefreiddiol ac yn ysbrydoledig! Diolch o galon!"

"Fantastic..easily the best course in years"

"Diolch yn fawr iawn am ddiwrnod gret. Roedd y cyflwyniad yn llawn egni a brwdfrydedd, wedi agor fy llygaid i gymaint o bethau newydd !!"

"Diolch o galon! Wir yn ddefnyddiol ac mae'n gyffrous i fynd â chymaint o syniadau newydd yn ôl i'r ysgol... Diolch o galon."

"Mae angen i bob aelod o'n staff fynychu'r hyfforddiant hwn!"

"Da iawn. Wir wedi mwynhau heddi - GYMAINT o syniadau. Arweinwyr digidol wedi cynrychioli'r Ysgol yn grêt. Popeth yn glir IAWN! Diolch!! :-) "

"Grêt-byddwn yn ei argymell i bawb sydd am ddefnyddio'r dyfeisau yn yr ysgol."

 "Waw! Diolch am rannu'r holl Apps a'r gwefannau. Mor falch ei fod yn ddwyieithog hefyd. Y peth gorau oedd cael rhywun sy'n gyfarwydd â'r holl Apps ac yn gallu argymell y rhai gorau."

 "Diwrnod gwych!.....llawn gwybodaeth defnyddiol."
 

"Diwrnod diddorol iawn! Diolch yn fawr, wedi dysgu llawer!"
 
"Cyflwyniad GWYCH!! Wir wedi mwynhau a wedi dysgu llwyth o bethau newydd. Diolch yn fawr iawn, Serena"
 
"Arbennig! Serena a'r arweinwyr yn wych!"
 
"Very formative but hands on, great session"
 
"Diolch yn fawr iawn iawn, mae di bod yn ddiwrnod gwych"
 
"Diolch yn fawr iawn..Diwrnod defnyddiol iawn, llawn brwdfrydedd ac egni. Mi fyddai'n ystyried danfon aelod(au) eraill o staff i unrhyw digwyddiad yn y dyfodol i elwa o'ch profiadau."
 
"Gweledigaeth bendant, diolch, wedi cael syniadau ag ysbrydolaeth."
 
 "Syniadau ymarferol ac ysbrydoledig"

"Roedd yn ddefnyddiol iawn cael cyfle i ddefnyddio'r apps i gyd. Cyflwyniad gwych gan Serena!"

 "..c
ael defnyddio'r apps a gweld sut maent yn gweithio. Amrediad eang ohonnynt wedi fy ysbrydoli i fynd ati i newid y ffordd dwi'n edrych ar ddysgu DT o mis Medi ymlaen."

"Llwyth o syniadau ac agwrymiadau ymarferol sydd wedi cael eu defnyddio gyda dosbarthiadau. Yr oedd cyfraniad yr arweinwyr digidol hefyd yn werthfawr iawn o ran trafod profiadau gwirioneddol ymarferol."






No comments:

Post a Comment