Amdanaf

Pwy sydd yn gyfrifol am y blog hwn? Ateb: Serena Davies.

Rwy'n athrawes ysgol uwchradd sydd wedi gweithio yn Ysgol y Preseli ers 2002. Rwy'n dysgu Busnes Gymhwysol (Safon Uwch), Hamdden a Thwristiaeth (TGAU) a Daearyddiaeth (CA3).

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn adnoddau digidol, ac yn dymuno dysgu mwy am eu potensial ym myd addysg. Erbyn hyn rwyf wedi datblygu "Prosiect eDdysg" yn Ysgol y Preseli (gweler y wefan yma), ac yn gyfrifol am sefydlu Arweinwyr Digidol yr ysgol hon. Dyma grŵp o blant sydd yn diddori'n fawr mewn datblygiadau digidol, ac sydd yn awyddus i gynorthwyo'r ysgol i 'symud ymlaen' i'r oes ddigidol fodern!

 Erbyn heddiw mae'r Prosiect wedi llwyddo i ddarparu hyfforddiant ar gyfer:

  • dros 50 o athrawon uwchradd ar draws Cymru, 
  • cynrychiolwyr Teulu Ysgolion Ysgol y Preseli, 
  • dros 35 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd yn dilyn cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion, 
  • staff Ysgol y Preseli,
  • staff Cylch Meithrin Crymych,
  • staff Cyfnod Sylfaen Ysgol y Frenni, Crymych


Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ennill gwobr "Canmoliaeth Uchel" yn y Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2014 (am ein 'Defnydd Arloesol o Dechnoleg Digidol' yn Ysgol y Preseli).

Fel mam i 3 o blant o dan 8 mlwydd oed, rwyf hefyd yn diddori'n fawr yn sut y gall adnoddau digidol helpu'r plant ifanc yma i ddysgu, ac i agor eu llygaid i brofiadau newydd. Rwyf hefyd yn credu'n gryf na ddylai plant dreulio gormod o amser o flaen sgrin, felly mae rheoli'r cydbwysedd (fel rhiant) yn elfen arall o fy ngwaith!

Os yr ydych yn dymuno derbyn hyfforddiant unigol, neu'n dymuno cael gweithdai o fewn eich sefydliad chi, cysylltwch drwy ddefnyddio'r ffurflen hon. Neu, cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau!

Diolch am ddarllen,
Serena



No comments:

Post a Comment